Gerry Adams
Mae’r blaid unoliaethol fwyaf yng Ngogledd Iwerddon wedi awgrymu y byddai’n cefnogi cynnal pôl ar statws y dalaith, er mwyn rhoi taw ar y mater a datgelu “gwleidyddiaeth ffantasi” y gweriniaethwyr.
Yn ôl y DUP byddai cynnal pôl yn gorfodi Sinn Fein i ddangos ei chardiau ar ôl i’r blaid weriniaethol lansio ymgyrch o blaid cynnal refferendwm ar uno’r gogledd gyda’r Weriniaeth yn ystod tymor nesaf cynulliad Stormont.
Mae Gerry Adams, sydd wedi cyhoeddi ei fod am barhau yn arweinydd ar y blaid am dair blynedd arall o leiaf, wedi dweud y byddai uno Iwerddon yn gwneud synnwyr economaidd a gwleidyddol.
Ond yn ôl Gweinidog Gogledd Iwerddon dros yr Economi, Arlene Foster o’r DUP, byddai cynnal pôl heddiw yn “rhoi ateb i Sinn Fein,” ac mae wedi trafod y mater gyda Peter Robinson Prif Weinidog y dalaith.
“Byddwch yn ofalus o’r hyn ry’ch chi’n ei ddymuno, dywedaf i wrth Sinn Fein,” meddai Arlene Foster.
“Os byddai pôl heddiw yng Ngogledd Iwerddon byddai mwyafrif clir iawn, iawn o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol,” meddai.
Dan Gytundeb Gwener y Groglith gall Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon orchymyn pôl os creda fod tystiolaeth gref o blaid newid cyfansoddiadol.
Mae dyfodol y Deyrnas Gyfunol eisoes yn y fantol gyda refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban y flwyddyn nesaf.