Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaeth sgrinio serfigol yng Nghymru heddiw, yn dilyn argymhellion gan grŵp o arbenigwyr.

Cyhoeddodd y gweinidog y byddai’r oedran y mae merched yn cael eu sgrinio am y tro cyntaf yn newid o 20 i 25. Hefyd bydd merched dros 50 yn cael eu sgrinio bob 5 mlynedd o hyn ymlaen, yn hytrach na bob 3 blynedd, fel mae’r gwasanaeth yn bresennol.

Mae’r newidiadau yn dod o ganlyniad i argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cymru, sydd yn eu tro wedi derbyn argymhellion Pwyllgor Sgrinio’r DU, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd Lesley Griffiths bod sgrinio serfigol yn arbed 5,000 o fywydau yn y DU bob blwyddyn, ac yn atal 80% o achosion canser rhag datblygu.

“Yng Nghymru, rydyn ni’n ystyried yr holl gyfarwyddyd ar raglenni sgrinio gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru.  Mae’u hargymhellion, fel arbenigwyr yn y maes, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael,” meddai.

Cefnogodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Ruth Hall y newyddion.

“Mae achosion o ganser ceg y groth ymysg menywod o dan 25 oed yn brin iawn ac fel arfer mae modd eu canfod drwy symptomau yn hytrach na’r rhaglen sgrinio. Felly gallai sgrinio menywod o dan 25 oed arwain at driniaeth ddiangen a phryder i nifer sylweddol ohonynt.”