Mae nifer y bobol sy’n marw oherwydd hunanladdiad yng Nghymru wedi cynyddu 30% rhwng 2009 a 2011, yn ôl ystadegau newydd.

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 341 o bobol dros 15 oed wedi lladd eu hunain yn 2011, 13.9 ymhob 100,000 o’r boblogaeth.  Dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru ers 2004, ac mae’n gynnydd sylweddol ers 2009, pan roedd 10.7 hunanladdiad ymhob  100,000 o’r boblogaeth.

Mae’r ystadegau’n dangos bod cynnydd o 8% yn nifer y marwolaethau oherwydd  hunanladdiad yn y DU,  i 6,045 yn 2011.

Yng Nghymru, mae’r gyfradd hunanladdiad yn uwch nag yn Lloegr, yn enwedig nifer y dynion sy’n marw oherwydd hunanladdiad.  Ers 1991 mae’r nifer y dynion sydd wedi marw yng Nghymru wedi bod yn cynyddu, ac yn 2011, roedd y nifer yn 28% yn uwch nag yn Lloegr.

Dros y DU, roedd y gyfradd hunanladdiad uchaf ymhlith dynion rhwng 30 a 44 oed, gyda 23.5 marwolaeth ymhob 100,000.  Merched rhwng 45 a 59 oedd a’r gyfradd uchaf ymysg menywod, gyda 7.3 achos o hunanladdiad ymhob 100,000.