Anton Rodgers a'i dad Brendan Rodgers ar eu ffordd i'r llys
Mae grŵp o chwaraewyr pêl-droed yn ymddangos o flaen llys yr Old Bailey heddiw ar honiadau o dynnu lluniau ohonyn nhw eu hunain yn ymosod yn rhywiol ar ferch 19 mlwydd oed.

Clywodd y rheithgor bod chwaraewyr Brighton and Hove Albion eisiau “cofnod parhaol o’u concwest”.

Mae Anton Rodgers, 19, Lewis Dunk, 21, George Barker, 21,a Steve Cook, 21, wedi gwadu ymosod yn rhywiol ar y ferch wedi iddyn nhw fynd allan i ddathlu buddugoliaeth eu clwb yn y Sussex Senior Cup y llynedd.

Roedd  tad Anton Rodgers,  rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, yn bresennol yn y llys.

Mae Rodgers a Barker, y ddau o Highview Avenue North, Brighton; Dunk, o Woodbourne Avenue, Brighton; a Cook, o Perth Road, St Leonards-on-Sea, East Sussex, hefyd yn gwadu cyhuddiad o voyeuriaeth.

Honnir bod y troseddau wedi eu cyflawni yng ngwesty’r Jury Inn yn Brighton ym mis Gorffennaf 2011.

Dywedodd Richard Barton ar ran yr erlyniad bod y pêl-droedwyr wedi “cymryd mantais” o’r ferch, oedd hefyd yn feddw, ac wedi aros nes ei bod yn cysgu “cyn ymosod arni’n rhywiol a thynnu lluniau o’u hunain yn gwneud hynny.”

Clywodd y llys nad oedd y ferch wedi dweud wrth yr heddlu am y digwyddiad am chwe mis am ei bod yn “ofni’r sgil-effeithau”.

Fe benderfynodd wneud cwyn ar ôl cael ei “hedliw yn barhaus” am y digwyddiad gan bêl-droediwr arall yn y clwb.

Dywedodd Richard Barton nad oedd y ddynes mewn “cyflwr i ymwrthod, rhoi cysyniad neu atal yr hyn oedd yn digwydd.”

Mae’r achos yn parhau.