Yn dilyn y golled siomedig yn erbyn Barrow ddydd Sadwrn, bydd gan dîm pêl-droed Casnewydd gyfle arall i gyrraedd brig y Gynghrair Blue Square heno, pan fyddan nhw’n chwarae Woking.
Os byddan nhw’n fuddugol, bydd Casnewydd yn symud dau bwynt o flaen Wrecsam ar frig y gynghrair. Roedd Wrecsam i fod i groesawu Southport i’r Cae Râs heno, ond mae tywydd rhewllyd wedi gorfodi’r dyfarnwr i ohirio’r gêm.
Dywedodd rheolwr cynorthwyol Casnewydd, Jimmy Dack bod y perfformiad diwethaf yn erbyn Barrow wedi bod yn un wael iawn.
“Dylai’r tîm wedi perfformio llawer gwell, ac rydyn ni wedi ein siomi. Ond, mae’n gynghrair anodd, a does dim un gêm hawdd yn y gynghrair yma,” meddai Dack. “Dwi’n teimlo ein bod wedi gadael y cefnogwyr i lawr, ac ein hunain. Mae’n rhaid i ni ennill y math yma o gemau.”
Bydd Casnewydd yn obeithiol am well canlyniad oddi cartref yn Woking heno, i gael symud o flaen eu cystadleuwyr o ogledd Cymru, Wrecsam.
Bydd gêm Casnewydd yn dechrau am 7.45yh.