Robin McBryde
Mae hyfforddwr blaenwyr Cymru wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd rhai o chwaraewyr Cymru yn gwella mewn pryd o’u hanafiadau.
Mae ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad yn dechrau ar Chwefror 2 yn erbyn Iwerddon ac mae amryw o sêr Cymru yn absennol o’r gêm honno, yn eu plith Rhys Priestland, Alun-Wyn Jones, Bradley Davies, Luke Charteris a Dan Lydiate.
Mae anaf hefyd gan Richard Hibbard i’w ysgwydd, gan yr ail reng Ian Evans i’w ben-glin, ac mae’r bawd yn peri trafferth i Ryan Jones.
“Gwelodd Ryan arbenigwr ddoe ac mae’n eitha positif,” meddai Robin McBryde.
“Mae’n fater o ddisgwyl nawr a dy’n ni ddim yn gwybod pwy fydd yn holliach.
“Bydd rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau wythnos nesaf er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r tîm baratoi ar gyfer y gêm gyntaf.
“Mae’r gwydr yn hanner llawn, a than y clywn ni fel arall rydym ni’n gobeithio bydd pawb yn ffit.”