Fe fydd hyd at 5,300 o filwyr yn cael eu diswyddo o’r fyddin yn yr haf fel rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i gwtogi ar y nifer yn y Lluoedd Arfog, fe gyhoeddodd y Llywodraeth heddiw.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod rhagor o ddiswyddiadau ymhlith staff meddygol a deintyddol y Llynges a’r Awyrlu, yn ogystal â diswyddiadau ychwanegol yn y fyddin, “yn debygol”.

Mae’r diswyddiadau yn rhan o doriadau a gyhoeddwyd yn 2010 a fydd yn golygu bod y fyddin yn gostwng o 102,000 i 82,000 erbyn 2020.

Dyma’r nifer fwyaf i gael eu diswyddo hyd yn hyn – cafodd 2,860 eu diswyddo yn 2011, a 3,760 ym mis Mehefin 2012.