Mae dwy archfarchnad wedi rhoi’r gorau i werthu dau fath o fyrgyrs cig eidion, wedi i olion cig ceffyl gael eu darganfod yn eu cynnyrch.

Dywedodd Asiantaeth Safonau Bwyd Iwerddon bod profion wedi dangos bod olion o’r cig wedi cael ei ddarganfod mewn byrgyrs sy’n cael eu gwerthu yn archfarchnadoedd Tesco, Iceland, Lidl, Aldi, a Dunnes Stores.

Cafodd profion eu cynnal ar 27 o samplau, gyda 10 ohonyn nhw’n dod o hyd i olion cig ceffyl.

Roedd samplau eraill yn cynnwys olion cig moch.

Dangosodd un sampl bod 29% o’r cig yn gig ceffyl.

Mae Tesco ac Iceland wedi dweud eu bod yn tynnu’r cynnyrch oddi ar eu silffoedd, ond dydy’r Asiantaeth Safonau Bwyd ddim yn credu bod yna le i boeni am beryglon i iechyd pobl.

Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies, ar y Post Cynta bore ma ei fod yn ofni effaith hyn ar y diwydiant amaeth gan bwysleisio nad yw HCC yn gallu plismona’r cig sy’n dod i mewn i’r wlad.

‘Dim eglurhad’

Tra bod olion cig moch yn fwy cyffredin mewn byrgyrs cig eidion, mae prif weithredwr Asiantaeth Safonau Bwyd Iwerddon wedi rhybuddio eu bod yn peri gofid i rai carfannau crefyddol.

Dywedodd: “Nid yw’r cynnyrch yr ydyn ni wedi eu nodi fel rhai sy’n cynnwys DNA ceffylau a/neu foch yn peri unrhyw risg o ran diogelwch bwyd ac ni ddylai cwsmeriaid boeni.

“Tra bod yna esboniad credadwy am bresenoldeb DNA moch yn y cynnyrch hwn oherwydd bod y cig o wahanol anifeiliaid yn cael ei brosesu yn yr un ffatrïoedd cig, does dim eglurhad ar hyn o bryd am bresenoldeb DNA ceffylau yn y cynnyrch sy’n dod o ffatrïoedd cig nad ydyn nhw’n defnyddio cig ceffyl yn eu proses gynhyrchu.

“Yn Iwerddon, nid yw’n rhan o’n diwylliant ni i fwyta cig ceffyl ac felly, nid ydym yn disgwyl dod o hyd iddo mewn byrgyr.”

Roedd pastai datws stwmp, pei cyri cig eidion a lasagne ymhlith y cynnyrch a gafodd ei brofi.

Mae yna bryderon y gallai olion cig moch yn y cynnyrch beri anfodlonrwydd ymhlith rhai carfannau crefyddol ar sail eu credoau.