Cartref Imani Green yn Balham
Mae wyth o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth merch 8 oed o Brydain a gafodd ei saethu’n farw tra ar wyliau yn Jamaica.

Cafodd Imani Green o Balham yn ne Llundain ei lladd ar ôl i ddyn arfog ddechrau tanio gwn tra roedd hi yn siop ei chefnder ym mhentref Duncans nos Wener. Mae tri o’i pherthnasau yn gwella yn yr ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu hanafu yn yr ymosodiad.

Mae’r heddlu’n credu y gallai fod wedi ei lladd gan gangsters ar yr ynys, ac mae’n debyg nad Imani oedd yn cael ei thargedu.

Dywedodd y Dirprwy Brif Arolygydd Steve Brown yn Jamaica bod wyth o bobl yn cael eu holi, ond nad oedd yn credu mai gangiau allai fod yn gyfrifol am yr ymosodiad gan fod yr ardal mor dawel ac anghysbell.

Yn y cyfamser mae prifathrawes ysgol gynradd Imani Green yn Tooting, Anne Wilson, wedi rhoi teyrnged iddi  gan ddweud ei bod yn ferch “hapus a chwareus”.

Yn ôl adroddiadau roedd Imani Green  yn dioddef o anemia crymangell (sickle cell anaemia) ac wedi cael caniatâd yr ysgol i gymryd gwyliau hirach dros y Flwyddyn Newydd.