Catherine Gowing
Bydd dyn yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio milfeddyg yng Nglannau Dyfrdwy.
Mae Clive Sharp, sy’n 46 a heb gyfeiriad penodol, wedi ei gyhuddo o ladd Catherine Gowing, 37, ym mis Hydref y llynedd. Dechreuodd yr heddlu chwilio am Catherine Gowing ar ôl iddi fethu â mynd i’w gwaith ym milfeddygfa Evans yn yr Wyddgrug, ar 15 Hydref.
Cafodd Catherine Gowing, oedd yn dod o Sir Offaly yn Iwerddon yn wreiddiol, ei gweld am y tro olaf mewn archfarchnad ar ddydd Gwener, 12 Hydref.
Wedi’r ymgyrch chwilio fwyaf mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ei ymgymryd, daeth yr heddlu o hyd i weddillion ei chorff bythefnos yn ddiweddarach, mewn dŵr bâs yn Sealand, Glannau Dyfrdwy.
Bydd Clive Sharp yn ymddangos o flaen y Llys yn yr Wyddgrug heddiw.