Michael Moore
Mae Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore wedi dweud na fydd llywodraeth San Steffan yn cychwyn trafod oblygiadau annibynniaeth i’r wlad tan ar ôl y refferendwm yn 2014.
Mewn erthygl yn y ‘Scotsman’ dywedodd Mr Moore y buasai cychwyn trafodaethau o’r fath yn golygu bod llywodraeth y glymblaid yn bradychu eu dyletswydd i’r wlad.
Mae safbwynt Mr Moore yn gwbl groes i un Llywodraeth yr Alban sy’n dweud ei fod o blaid i swyddogion Llundain a Chaeredin gychwyn paratoi ar gyfer annibynniaeth cyn y refferendwm.
Ychwanegodd Mr Moore y bydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau LLoegr, Cymru a Gogledd Iwerddon wrth negydu unrhyw gytundeb a bydd hyn yn golgyu na fydd modd rhoi popeth mae Llywodraeth yr Alban ei eisiau iddyn nhw.
Ymhlith y pethau y mae LLywodraeth yr Alban eisiau cychwyn eu trafod yw olew Môr y Gogledd, a chyfran yr Alban o fuddion a dyledion y DU.
Trident
Daw sylwadau Michael Moore ddyddiau yn unig wedi ffrae ynglyn â llongau tanfor taflegrau niwcliar Trident. Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud na fydd modd symud taflegrau Trident o’r Alban am flynyddoedd wedi annibynniaeth ac y gallai symud llynges y llongau tanfor i gyd o Faslane olygu colled o 8,2000 o swyddi yn yr ardal.
Mae’r SNP yn mynnu mai dim ond 500 o swyddi sydd yn ddibynnol ar Trident ac y buasai yna ddyfodol llewyrchus i longau arferol y llynges yn yr Alban annibynnol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod yn mawr obeithio y gall y trafodaethau gychwyn ar lefel swyddogol er mwyn sicrhau, petai canlyniad y refferendwm o blaid annibynniaeth, bod ewyllys y bobl yn cael ei wireddu. Mae hyn yn synnwyr cyffredin meddai.