Llanrwst
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrrwyr i fod yn wyliadwrus wrth deithio ar hyd yr A470 yn Nyffryn Conwy am fod rhywun yn gosod cerrig yn fwriadol ar ganol y ffordd.

Mae swyddogion wedi cael eu galw bedair gwaith ers dydd Mercher diwethaf wedi i gerrig  gael eu gosod ynghanol y ffordd ger Maenan ar gyrion Llanrwst.

Mae gweithwr y cyngor wedi bod yno ddwywaith yn codi cerrig hefyd.

Dywed yr heddlu eu bod yn bryderus iawn gan fod ambell garreg yr un maint a phêl droed. Mae hyn wedi achosi i un gyrrwr daro’i frêc yn sydyn gan wneud difrod i’w gar.

Mae’r heddlu yn poeni y gall hyn arwain at ddamwain ddifrifol ac mae nhw’n awyddus i holi gwr yn gwisgo siaced oren fflwroleuol welwyd yn yr ardal ar yr adegau perthnasol. Galla’i gwr yma fod yn dyst neu y troseddwr ei hun.

Mae nhw’n gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddi-enw.