Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi cyfaddef heddiw bod eu gwerthiant dros gyfnod y Nadolig yn is na’r disgwyl.

Fe gyhoeddodd y cwmni ostyngiad o 2.5% mewn gwerthiant yn y chwe wythnos hyd at 30 Rhagfyr.

Dywedodd Morrisons, sy’n cyflogi 130,000 o staff mewn 455 o archfarchnadoedd ar draws y DU, bod eu perfformiad yn siomedig a’u bod wedi dioddef yn sgil cystadleuaeth gan archfarchnadoedd eraill.

Er gwaetha’r gostyngiad mewn gwerthiant, dywed y cwmni bod disgwyl iddyn nhw gwrdd â’u targedau elw.