Yaseen Ali Ege
Bydd mam o Gaerdydd sydd wedi ei chael yn euog o lofruddio ei mab saith oed ar ôl iddo fethu â dysgu’r Koran yn cael ei dedfrydu heddiw.

Roedd Sara Ege, 33, wedi curo ei mab Yaseen gyda ffon dros gyfnod o dri mis a bu farw’r bachgen saith oed o anafiadau mewnol yng Ngorffennaf 2010.

Ceisiodd hi losgi ei gorff yn eu cartref ym Mhontcanna er mwyn cuddio’r dystiolaeth.

Ym mis Rhagfyr cafwyd ei gŵr Yousef Ege, 38, yn ddieuog o ganiatáu marwolaeth ei fab trwy fethu ei warchod.

Yn ogystal â’i chael yn euog o lofruddiaeth cafwyd Sara Ege yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.