Margaret Thatcher
Mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Margaret Thatcher, yn “hollol iawn” ar ôl cael llawdriniaeth fechan.

Fe gafodd y Farwnes 87 mlwydd oed ei chludo i’r ysbyty ddydd Iau, ac mae disgwyl iddi gael ei chadw yno dros y Dolig, ar ôl derbyn triniaeth i godi tyfiant oddi ar ei phledren dde.

“Mae hi’n hollol iawn,” meddai llefarydd ar ran y gwleidydd sydd wedi bod yn sâl dros y blynyddoedd diwetha’.

Mae Carol wedi bod wrth erchwyn ei mam ers iddi gael y driniaeth. Mae ei mab, Mark, ar wyliau dramor.

Yn ôl datganiad: “Fe aeth y driniaeth yn dda, mae hi wedi bod yn llwyddiant, ac mae’r Farwnes Thatcher mewn cyflwr boddhaol.

“Fe fydd hi’n aros yn yr ysbyty am rai dyddiau eto, cyn dychwelyd gartref.

“Mae hi’n wraig wydn iawn,” meddai’r datganiad wedyn. “Mae’r meddygon yn fodlon iawn.”

Dim yn dda

Doedd Margaret Thatcher ddim yn ddigon da i ymuno â’r Frenhines ar gyfer swper i nodi Jiwbili Diemwnt yr ha’ diwetha’.

Ddwy flynedd yn ôl, fe fethodd ei pharti pen-blwydd 85 oed ei hun – parti gafodd ei drefnu gan y Prif Weinidog presennol, David Cameron.

Ond ym mis Hydref eleni, roedd hi’n ddigon da i nodi ei phen-blwydd yn 87 mlwydd oed mewn cinio amser cinio mewn bwyty yn Llundain gyda’i mab, Mark, a’i wraig.