Fe ddylai banciau wynebu’r bygythiad o gael eu hollti, os na fyddan nhw’n gwarchod arian cwsmeriaid cyffredin.

Dyna’r casgliad yn adroddiad cynta’r Comisiwn Bancio sydd wedi ei sefydlu yn sgil y twyllo tros drefnu cyfraddau llog Libor.

Tra bod Llywodraeth Prydain yn cynnig rheolau i sicrhau bod busnes cyffredin banciau’n cael ei gadw rhag elfennau mwy mentrus, mae’r Comisiwn yn dweud bod angen pwerau cryfach.

Fe fyddai hynny, medden nhw, yn golygu rhoi’r hawl i orfodi banciau i hollti os na fyddan nhw’n cadw at y rheolau.

Y cefndir

Fe ddaeth yr adroddiad y diwrnod ar ôl i fanc mawr o’r Swistir, UBS, gael dirwy o £940 miliwn am dwyllo tros gyfradd Libor – y gyfradd sy’n rheoli pris benthyg rhwng banciau a’i gilydd.

Yn ôl Cadeirydd y Comisiwn, Andrew Tyrie, roedd hynny’n “anhygoel” ac yn arwydd clir fod angen gweithredu pellach.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys darpar Archesgob Caergaint, Justin Welby, a’r cyn-Ganghellor Nigel Lawson.