George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi gwadu heddiw mai’r bobl dlotaf fydd yn dioddef waethaf yn sgil ei ddatganiad ddoe.

Roedd hefyd yn gwadu ei fod wedi newid y ffigurau er mwyn gwneud i sefyllfa ariannol y Llywodraeth edrych yn well.

Fe gyhoeddodd heddiw y byddai pob rhan o gymdeithas yn gorfod cyfrannu, gan ddweud y byddai incwm pobl fwy cyfoethog hefyd yn cael ei effeithio. Mae’n mynnu bod ’na “gydbwysedd” yn y mesurau gafodd eu cyflwyno ddoe.

Daw ei sylwadau wrth i effaith ei doriadau ddod o dan y chwyddwydr gyda’r  Blaid Lafur yn honni mai teuluoedd sy’n gweithio fydd ar eu colled.

Cyhoeddodd y bydd cynnydd o 1% yn unig, llai na graddfa chwyddiant, mewn rhai budd-daliadau ar gyfer y di-waith dros y tair blynedd nesaf, ac 1% mewn budd-dal plant am ddwy flynedd hyd at fis Ebrill 2014.

Ond fe fydd budd-dal gofalwyr a budd-dal anabledd yn codi yn unol â graddfa chwyddiant. Dywedodd George Osborne nad oedd am weld teuluoedd sydd ar fudd-daliadau ar eu hennill o’i gymharu â theuluoedd sy’n gweithio.

Ond mae Llafur yn dweud y bydd y newidiadau i fudd-daliadau a threth yn golygu y bydd teulu gyda phlant sy’n ennill £20,000 y flwyddyn yn colli £279 y flwyddyn o fis Ebrill nesaf.

Yn y cyfamser mae asiantaeth Fitch wedi dweud bod ’na risg y gallai statws credyd Prydain gael ei israddio ar ôl i’r Canghellor ddweud y byddai’r Llywodraeth yn methu ei tharged o ran lleihau’r ddyled.