Mae Tesco wedi cyhoeddi ei fod yn adolygu ei fusnes yn yr Unol Daleithiau heddiw ar ôl gwneud colledion mawr.

Fe allai olygu bod y cwmni archfarchnad yn gwerthu ei fusnes Fresh & Easy. Fe fydd Tim Mason, fu’n rheoli’r busnes yn yr UDA ac sydd wedi bod gyda Tesco ers 30 mlynedd, yn gadael y cwmni.

Yn y DU, mae gwerthiant Tesco hefyd wedi gostwng yn y trydydd chwarter ac mae’r Prif Weithredwr Philip Clarke wedi cyfaddef nad yw gwerthiant eu nwyddau eraill, ar wahân i fwyd, yn ddigon da.