Nigel Farage o Ukip
Mae Ceidwadwr blaenllaw wedi galw ar ei blaid i ddod i gytundeb gyda Ukip.

Mae’r Aelod Seneddol Michael Fabricant, dirprwy gadeirydd y blaid sy’n gyfrifol am ymgyrchu etholiadol, wedi rhybuddio David Cameron y gallai’r Ceidwadwyr golli seddau ymylol yn yr etholiad cyffredinol heb addewid am refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd  Michael Fabricant ei bod hi’n bryd ystyried o ddifrif “closio” at y blaid er mwyn osgoi colli rhagor o bleidleisiau i Ukip mewn seddau ymylol.

Ond mae arweinydd Ukip Nigel Farage wedi mynnu na fydd unrhyw gytundeb  rhwng ei blaid a’r Ceidwadwyr gan gyfeirio at sylwadau’r Prif Weinidog bod y blaid yn “hiliol”.

Mae David Cameron dan bwysau gan aelodau ei blaid i gynnal refferendwm i benderfynu a ddylai Prydain aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.