Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau,
Carl Sargeant
Carl Sargeant, wedi lansio Papur Gwyn heddiw er mwyn ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Un o’r cynigion yw penodi Cynghorydd Gweinidogol Annibynnol ar Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod – sef y penodiad cyntaf o’r fath yn y DU – fydd yn gwneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth yn cael ei weithredu.
Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys addysgu disgyblion ysgol am gydberthnasau iach; adolygiad annibynnol o’r gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr; datblygu Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau cysondeb wrth hyfforddi staff rheng flaen ledled Cymru; a gosod dyletswydd ar gyflogwyr y sector cyhoeddus i fod â pholisi yn y gweithle ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Amcangyfrifir bod cost ariannol cam-drin domestig dros £800 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn yn anfon neges glir bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol nid yn unig er mwyn atal y baich ariannol anferth ar wasanaethau cyhoeddus ond hefyd i leihau’r effeithiau emosiynol a chorfforol difrifol ar y dioddefwyr.
‘Deddfwriaeth arloesol’
Dywedodd Carl Sargeant: “Rwy’n credu’n gryf bod dyletswydd arnom ni i ymdrin â’r mater hwn ac rwyf o’r farn y bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon – fel y’i hamlinellir yn y Papur Gwyn – yn ein helpu i gymryd camau breision tuag at gyflawni’r amcan o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.”
“Rwyf i o’r farn bod gan bawb yng Nghymru’r hawl i fyw mewn cymuned ddiogel, yn rhydd rhag trais a chamdriniaeth. Er mwyn cyflawni hynny mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol barhaus o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”
Meddai Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru ei bod hi’n “croesawu’r papur ymgynghori ar y mesur draft.”
“Mae trais yn erbyn menywod yn broblem enfawr yng Nghymru, a cham-drin domestig yw’r ffurf fwyaf cyffredin o drais yn erbyn menywod. Mewn dim ond un flwyddyn, mae dros 50,000 o fenywod Cymru yn profi cyfanswm o dros 200,000 o achosion o gam-drin yn y cartref, ac mae tua 7 menyw yn marw dan ddwylo eu partneriaid neu gynbartneriaid.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth newydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau menywod a phlant ar draws Cymru.”