Dr Sabah Usmani a'i phlant
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i dân mewn tŷ a laddodd chwe aelod o’r un teulu yn trin eu marwolaethau fel achos o lofruddiaeth.

Bu farw Sabah Usmani, 44, ei meibion Muneeb, 9, a Rayyan, 6, a’i merch Hira, 12, yn y tân yn ystod oriau man y bore ar 15 Hydref yn eu cartref yn Barn Mead, Harlow, Essex.

Roedd mab arall, Sohaib, 11, a merch Maheen, 3, wedi marw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Abdul Shakoor, gwr Dr Usmani, oedd yr unig un i oroesi’r tân.

Dywed Heddlu Essex bod tystiolaeth gan wyddonwyr yn awgrymu bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.

Roedd lladrad wedi bod yn y tŷ yr un noson ac mae’r heddlu’n apelio unwaith eto am dystion.

“Mae hyn bellach yn ymchwiliad i lofruddiaeth. Ry’n ni’n credu bod rhywun wedi torri mewn i’r tŷ ac yna wedi achosi tân a laddodd chwech o bobl ddiniwed.

“Mae rhywun yn gwybod rhywbeth am y digwyddiad ac am ba bynnag reswm heb fynd at yr heddlu i ddweud beth welson nhw neu beth maen nhw’n ei wybod,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Essex.

Roedd car Ford Focus oedd wedi ei barcio gerllaw hefyd wedi ei roi ar dan y noson honno.