Dave Lee Travis
Yn ôl adroddiadau, y DJ Dave Lee Travis sydd wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i achosion o gam-drin gan Jimmy Savile.

Cafodd dyn yn ei 60au, sy’n byw yn Sir Bedford, ei arestio am 7.45yb heddiw ar amheuaeth o droseddau rhyw.

Dywed Scotland Yard nad yw’r honiadau yn ei erbyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol a Savile.

Fe ddaeth yr adroddiadau bod y DJ ar BBC Radio One wedi cael ei arestio wrth i’r heddlu gyhoeddi bod 450 o ddioddefwyr honedig wedi mynd at yr heddlu hyd yn hyn a bod 200 o honiadau o gam-drin rhywiol wedi cael eu gwneud.

Mae Gary Glitter, y comedïwr Freddie Starr a dyn 73 oed wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Roedd disgwyl i raglen Top of the Pops o 1977, oedd yn cynnwys Travis, gael ei darlledu ar BBC4 heno. Ond dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod y rhaglen bellach wedi cael ei newid yn dilyn y newyddion heddiw.