Mae cwmni olew BP wedi cytuno i dalu dirwy o £2.8 biliwn i’r awdurdodau yn yr UDA mewn cysylltiad â thrychineb Deepwater Horizon.

Bu farw 11 o weithwyr yn y ddamwain ar lwyfan olew yn 2010 ac roedd miliynau o farilau o olew wedi gollwng i Gwlff Mecsico.

Fe fydd BP yn talu’r ddirwy – y mwyaf yn hanes y UDA – dros gyfnod o chwe blynedd ar ôl pledio’n euog i 14 cyhuddiad troseddol yn ymwneud a’r ddamwain.

Dywedodd prif weithredwr BP Bob Dudley eu bod wedi ymddiheuro am eu rôl yn y ddamwain ac wedi cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.