Mae cyn gyflwynydd radio gyda’r BBC wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Mae Michael Souter, o Loddon, Norfolk wedi ei gyhuddo o 18 o droseddau’n ymwneud a bechgyn, ynghyd a throsedd yn erbyn dyn ac un yn erbyn dynes.

Dywed Heddlu Norfolk bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1979 a 1999 yn Norfolk.

Mae disgwyl i Michael Souter, 59, fu’n gyflwynydd ar BBC Radio Norfolk, ymddangos gerbron ynadon Norwich ar 30 Tachwedd.

Mewn datganiad, dywedodd Souter ei fod yn gwadu’r cyhuddiadau a’i fod yn edrych ymlaen at gael y cyfle “i brofi fy mod yn ddiniwed a chario mlaen gyda fy mywyd.”