Mae un o aelodau cynulliad Plaid Cymru wedi dweud fod bwriad Leanne Wood i sefyll mewn sedd etholaethol yn ymwneud â “thorri trwyddo” yn yr etholiadau nesaf.

Dywedodd Simon Thomas nad yw arweinydd y blaid wedi sôn am etholaeth benodol eto ond bod cynnwys ei darlith hi ym Mhrifysgol Aberystwyth neithiwr yn awgrymu mai “torri trwyddo” yw’r bwriad.

Ar hyn o bryd mae Leanne Wood yn cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ac mae trafod eisoes am ba etholaeth y bydd hi’n ymladd yn 2016.

“Mae ei bwriad hi yn rhoi arweiniad i ni gyd ystyried beth ydyn ni mynd i wneud,” meddai Simon Thomas, sy’n cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a fu’n aelod seneddol Ceredigion tan iddo golli’r sedd yn annisgwyl i’r Democrat Rhyddfrydol Mark Williams.

“Bydd bob un ohonom ni yn cael ein hannog i ystyried beth ydyn ni mynd i wneud yn y dyfodol, ond rydyn ni eisiau ymgeiswyr da ar y rhestr yn ogystal â’r etholaethau,” meddai Simon Thomas, a fydd yn trafod gydag aelodaeth y blaid yn lleol cyn penderfynu ble i sefyll y tro nesaf, meddai.

Mae Plaid Cymru wedi datgan bwriad i wneud y broses o enwebu ymgeiswyr yn fwy agored er mwyn denu pobol newydd o gefndiroedd gwahanol i sefyll yn enw’r blaid.