Fe gyhoeddodd Marks & Spencer ostyngiad mewn elw heddiw i £297 miliwn o £307 miliwn y llynedd.

Mae’r cwmni wedi cyfaddef iddyn nhw wneud camgymeriadau yn eu dillad ar gyfer merched, ar ôl eu perfformiad gwaethaf mewn nwyddau cyffredinol ers tair blynedd.

Ond dywedodd y prif weithredwr Marc Bolland bod gwerthiant nwyddau cyffredinol wedi gwella – fe fu gostyngiad o 1.8% mewn gwerthiant yn yr ail chwarter, o’i gymharu â gostyngiad o 6.8% yn y tri mis cyntaf.

Dywed Marks eu bod wedi cymryd camau i wella’r sefyllfa drwy benodi rheolwyr newydd gan gynnwys Belinda Earl, cyn bennaeth Debenhams a Jaeger, a fydd yn gyfrifol am geisio hybu gwerthiant dillad merched.

Ond mae’n debyg na fydd cwsmeriaid yn gweld ffrwyth y newidiadau tan yr haf y flwyddyn nesaf.