Ni fydd modd defnyddio llythyrau gan y cyn-weinidog Denis MacShane – lle mae’n cyfaddef iddo dwyllo gyda chostau seneddol – fel tystiolaeth i’w erlyn mewn llys barn.
Gan fod y llythyrau’n rhan o ohebiaeth seneddol mewnol, maen nhw’n dod o dan warchodaeth braint seneddol. O’r herwydd, chawson nhw mo’u datgelu i’r heddlu mewn ymchwiliad i weithgareddau’r Aelod Seneddol Llafur ddwy flynedd yn ôl.
Er i’r dogfennau gael eu cyhoeddi mewn adroddiad seneddol ddoe, dydyn nhw ddim yn ddilys fel tystiolaeth.
Fe ymddiswyddodd Denis MacShane fel Aelod Seneddol ddoe ar ôl i’r Pwyllgor Safonau a Breintiau ddangos sut yr oedd wedi cyflwyno anfonebau ffug dros gyfnod o bedair blynedd. Roedd y grŵp o Aelodau Seneddol o bob plaid o’r farn mai hwn oedd yr achos mwyaf difrifol iddyn nhw ymdrin ag ef, ac yn argymell gwaharddiad o 12 mis o’r Senedd fel cosb.
Dywedodd cydweithiwr iddo ei fod wedi “gwneud y peth iawn” wrth ymddiswyddo.