Mae pôl piniwn newydd wedi dangos y byddai mwy na hanner poblogaeth yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth petai nhw’n credu y byddai’r Ceidwadwyr yn parhau mewn grym ar ôl yr etholiad ar gyfer Senedd San Steffan yn 2015.

Meddai Ivor Knox o gwmni Panelbase wnaeth gynnal y pôl piniwn, “Ymysg y rhai oedd heb benderfynu am annibyniaeth, dywedodd dros 60% y basa’r syniad o lywodraeth yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwneud iddyn nhw fod yn fwy tebygol o bleidleisio o blaid, gyda dim ond 13% yn dweud y byddai’n annhebygol y basa nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth.”

Dywedodd Derek Mackay o Blaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, ei fod yn bôl positif iawn “sy’n dangos cefnogaeth gref a chynyddol ar gyfer y bleidlais Ie ar draws y sbectrwm gwleidyddol.”