Bryste
Mae dyn 33 oed o Fryste wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ar ôl damwain yn y ddinas yn gynnar bore Sadwrn.

Fe blymiodd car trwy reiliau ac i lawr ugain troedfedd oddi ar bont i mewn i Afon Avon yn y ddamwain.

Bu farw merch yn ei hugeiniau yn y digwyddiad ac aethpwyd â dau deithiwr oedd yn y car i’r ysbyty, ynghyd â chwe phlisman oedd wedi neidio i’r afon i geisio eu hachub.

Mae’r dyn 33 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos mewn llys ynadon ym Mryste dydd Llun. Ynghyd â’r cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o yrru o dan ddylanwad alcohol, gyrru heb yswiriant a gyrru cerbyd heb drwydded.