Nid yw cwmni coffi Starbucks wedi talu trethi ym Mhrydain ers 2009, yn ôl gwybodaeth a gafodd ei ryddhau heddiw.

Yn ol yr adroddiadau, dim ond £8.6 miliwn o dreth gorfforaethol mae’r cwmni Americanaidd wedi ei dalu mewn 14 blynedd. Mae debyg bod y cwmni wedi gwneud £3 biliwn mewn elw yn y DU ers 1998 ond wedi talu llai na 1% mewn treth gorfforaethol.

Mae’r cwmni Americanaidd yn werth tua £25 biliwn ac mae ganddyn nhw 735 o lefydd coffi yng ngwledydd Prydain, ond mae cyfrifon treth Starbucks yn Nhŷ’r Cwmnïau’n honni fod y cwmni wedi gwneud colled o £33m yn 2010-11. Dyma oedd  y degfed golled flynyddol yn olynol.

Mae Starbucks wedi dweud ei fod yn “drethdalwr ufudd a da” ac nid oes awgrym fod y cwmni wedi torri’r gyfraith.

Mae Starbucks yn gwmni rhyngwladol sydd wedi ei leoli yn Seattle yn yr Unol Daleithiau. Mae gwaith ymchwil gan asiantaeth newyddion Reuters wedi darganfod bod Starbucks yn gallu lleihau treth incwm drwy dalu ffioedd i rannau eraill o’r busnes yn fyd-eang. Mae hynny’n golygu fod Starbucks yn y DU yn gwneud colled ac o ganlyniad, nid yw’r cwmni’n gorfod talu treth gorfforaethol.  Mae hefyd yn golygu nad yw’r cwmni wedi torri’r gyfraith.

Ond Starbucks yw’r cwmni diweddaraf i ddod o dan y chwyddwydr am beidio cyfrannu mwy tuag at goffrau Cyllid a Thollau EM. Mae Facebook a Google hefyd wedi cael eu beirniadu am yr un rheswm.