Mae chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers bron i dair blynedd ym mis Medi.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) roedd Mynegai Pris Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 2.2% ym mis Medi, o 2.5% ym mis Awst a’r lefel isaf ers mis Tachwedd 2009.

Ond mae ‘na bryderon na fydd yn aros yn isel yn hir wrth i filiau tanwydd ddechrau cynyddu. Mae SSE, npower, Nwy Prydain a Scottish Power wedi cyhoeddi eu bwriadu i gynyddu prisiau nwy a thrydan gan olygu y bydd CPI yn dechrau codi unwaith eto.

Roedd cynnydd mewn prisiau petrol hefyd wedi rhoi pwysau ar CPI fis diwethaf, ac mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd cynnydd mewn prisiau bwyd hefyd yn gwthio lefel chwyddiant yn uwch.