Mae pedwerydd plentyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Essex yn gynnar bore ma.

Bu farw tri o blant a dynes yn y tân yn Barn Mead, yn Harlow, Essex yn ystod oriau mân y bore.

Cafodd dau arall eu cludo i’r ysbyty ond bu farw’r pedwerydd plentyn y bore ma.

Dywed Heddlu Essex eu bod yn trin y tân fel un amheus.