Mae pum aelod o’r Royal Marines wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Afghanistan yn 2011, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Cafodd saith o’r Marines eu harestio ddydd Iau, ac roedd yr Heddlu Milwrol Brenhinol wedi arestio dau arall – cyfanswm o naw i gyd – ar amheuaeth o lofruddio. Mae pedwar wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Mewn datganiad dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn:
“Mae’r Heddlu Milwrol Brenhinol wedi cyfeirio achosion y pum Royal Marine at Awdurod Erlyn y Gwasanaethau.
“Yn dilyn cyfarwyddyd gan yr Awdurdod Erlyn mae’r marines wedi cael eu cyhuddo o lofurddiaeth ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa i ddisgwyl achos llys.”
Cafodd y milwr, y credir eu bod nhw’n aelodau o’r 3 Commando Brigade, eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad pan oedden nhw yn nhalaith Helmand yn Afghanistan y llynedd.
Mae’r digwyddiad wedi cael ei ddisgrifio fel ‘ysgarmes gyda gwrthryfelwr’.
Mae rheolau pendant, sy’n deillio i raddau helaeth o Gonfensiwn Genefa, ynglŷn â pha bryd y caiff milwyr Prydeinig danio ar eu gelynion.