Pencadlys y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cychwyn ymchwiliad ar ôl i gyn-uchel swyddogion milwrol gael eu dal yn cynnig lobïo’r llywodraeth ar ran gwneuthurwyr arfau.
Dywed yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond nad oedd y cyn-gadfridogion yn cael “unrhyw ddylanwad” ar brosesau prynu’r llywodraeth, ond mae’r math yma o weithgareddau’n gwbl groes i reolau Whitehall.
Cafodd y cadfridogion eu dal gan ohebwyr cudd y Sunday Times yn cymryd arnynt eu bod yn wneuthurwyr arfau’n ceisio cytundeb gwerth miliynau o bunnau i werthu arfau i Brydain.
Dangosodd ymchwiliad a barhaodd dri mis yr uwch swyddogion milwrol yn gwthio buddiannau cwmnïau preifat er nad oedd ganddyn hawl i wneud hynny ac yn honni eu bod nhw’n gallu hawlio sylw’r Prif Weinidog.
Gwaharddiadau
Pan fo uchel swyddogion y llywodraeth – boed nhw’n weision sifil neu’n swyddogion milwrol – mae Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau Busnes yn gosod gwaharddiadau penodol ym mhob achos unigol, ar sail rheolau a bennwyd gan y Llywodraeth.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw’n ymchwilio i weld a gafodd unrhyw reolau eu torri ac yn cymryd camau i sicrhau nad yw hi’n bosibl i neb fanteisio’n annheg ar eu statws.
Mewn datganiad dywedodd Philip Hammond: “Mae offer yn cael ei brynu er budd ein lluoedd arfog ac nid er budd cadfridogion wedi ymddeol. Does gan gyn-swyddogion milwrol ddim dylanwad o ran pa gontractau mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn eu dyfarnu.”