Mae cyfarwyddwr teledu yn honni iddo achwyn fod Jimmy Saville yn cael rhyw gyda merch ifanc yn ei ystafell newid yn y BBC yn 1988, ond bod y penaethiaid wedi dweud wrtho: “Fel yna mae hi”.
Roedd David Nicolson yn gweithio ar y rhaglen Jim’ll Fix It pan welodd y cyflwynydd gyda merch oedd yn “16, 15 efallai” meddai wrth The Sun.
Yn ôl y cyfarwyddwr, wnaeth weithio ar Top os The Pops am ddegawd, roedd yn son am yr hyn welodd “am nad oes unrhyw un o uwch swyddogion y BBC yn fodlon siarad yn onest” am yr achos.
Mae 11 heddlu gwahanol yn ymchwilio i gyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Jimmy Saville.