Leighton Andrews sy'n gyrru'r drol addysgol
Er bod un o brifysgolion Cymru’n bygwth mynd at y Swyddfa Archwilio tros gynlluniau i’w gorfodi i ymuno gyda dwy brifysgol arall, mae Llywodraeth Cymru yn hapsu eu bod wedi gweithredu’n gall.

Mae penaethiaid Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd yn dweud nad oes gan y Gweinidog Addysg syniad faint y byddai’r cynllun yn ei gostio.

Maen nhw’n dweud hefyd eu bod wedi anfon tri llythyr cyfreithiwr yn gofyn am yr wybodaeth a dyma’r cam diweddara’ mewn brwydr galed rhyngddyn nhw â’r Gweinidog Leighton Andrews.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yr awdurdodau perthnasol eisoes yn cadw llygad ar y sefyllfa:

“Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwybodol o’r materion sy’n ymwneud ag ad-drefnu addysg uwch yn Ne Ddwyrain Cymru.

“Cafodd ei hadroddiad ar Gydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ei gyhoeddi yn 2009 a’i drafod gan ragflaenydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Archwilio, a ddaeth i’r casgliad fod angen i ‘Lywodraeth Cymru a HEFCW rhyngddyn nhw fod yn fwy cadarn yn y maes.’

“Byddwn ni’n trin holl ymatebion yr ymgynghoriad o ddifrif,” meddai Llywodraeth Cymru.