Ni fu’n rhaid i ddarlithydd prifysgol o Ben Llŷn wasanaethu ar reithgor, ar ôl iddo ofyn am yr hawl i drafod  yr achos yn y Gymraeg.

Ac mae Dr Richard Glyn Roberts yn galw ar eraill i ddilyn ei esiampl er mwyn pwyso ar yr awdurdodau i Gymreigio’r drefn.

Pan gafodd ei alw i wasanaethu ar y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon gwrthodwyd ei gais i wneud y gwaith drwy’r Gymraeg.

“Nid oes darpariaeth i gyfieithu tystiolaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg er budd rheithiwr,” meddai Barnwriaeth Lloegr a Chymru, y corff sy’n penderfynu ar faterion yn ymwneud â rheithgor, mewn datganiad i gylchgrawn Golwg.

“Hefyd nid yw’n bosib caniatáu i gyfieithwyr fynd i ystafell drafod y rheithgor (dim ond rheithwyr sy’n cael bod yno i drafod achos).

Dywed Richard Glyn Roberts ei fod yn cael ei drin yn “ddinesydd eilradd” dan y drefn bresennol.

“Mae hyn yn dangos nad ydy’r cydraddoldeb ffurfiol sydd ganddon ni ar bapur, drwy gyfrwng deddfau iaith, yn cyfrif dim mewn gwirionedd,” meddai’r darlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, sy’n byw yn Abererch ym Mhen Llŷn.

“Rydan ni Gymry Cymraeg yn dal yn ddinasyddion eilradd, dim ond bod hynny wedi’i gelu’n well nag yn y 1960au.”

Barn bargyfreithiwr

“Dw i erioed wedi clywed am aelod o’r rheithgor yn mynnu cael y drafodaeth yn Gymraeg mewn achos di-Gymraeg,” meddai Winston Roddick QC.

“Mae o’n ddyletswydd gyfreithiol, os ydych chi’n cael eich galw, i eistedd ar reithgor… chewch chi ddim gwrthod ar sail egwyddor yn ymwneud â materion crefydd neu faterion iaith.

“Ond yn aml iawn mae’r llys yn cymryd y cwrs realistig. Hynny yw, beth yw pwynt cael aelod ar reithgor os nad ydy’r person hwnnw am gymryd y swydd o ddifrif, a chyfrannu fel gweddill aelodau’r rheithgor?

“Gwell felly, o safbwynt y diffynnydd a’r erlyniaeth, fod pobol o’r math yna yn peidio gwasanaethu.”

Y stori’n llawn yn rhifyn wsos yma o gylchgrawn Golwg.