Mae Stadiwm y Mileniwm wedi cael ei wobrwyo am ei gyfraniad i gerddoriaeth fyw yn y Gwobrau Busnes Cerddoriaeth, sydd yn cael eu cynnal gan y cylchgrawn busnes cerddoriaeth LIVE UK.
Fe wnaeth Stadiwm y Mileniwm guro Stadiwm Emirates (stadiwm tîm pêl-droed Arsenal) a Stadiwm Etihad (stadiwm tîm pêl-droed Manchester City) ar ôl cyrraedd y rhestr fer terfynol.
Darllenwyr LIVE UK oedd yn pleidleisio am yr enillydd, sy’n arwydd bod y Stadiwm yn creu argraff ar y bobl sy’n cyrraedd y brifddinas ar gyfer cyngherddau arbennig.
Fe wnaeth Alex Luff, rheolwr gwerthiant Stadiwm y Mileniwm, gasglu’r wobr mewn seremoni gyflwyno arbennig yng Ngwesty’r Radisson Blu Portman yn Llundain.
‘‘Mae’r wobr yma’n cadarnhau enw da’r Stadiwm, lle bydd pobl eisiau gweld cerddoriaeth fyw yma, hefyd mae’n wych ein bod staff y Stadiwm wedi cael ei gydnabod am ei holl ymdrechion,’’ meddai Luff.
Meddai Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: ‘‘Rhwng lleoliad y Stadiwm yn y brifddinas, y to a’r system cae symudadwy, mae’n caniatáu i ni ddenu’r digwyddiadau gorau i Gaerdydd, ac rwyf wrth fy modd bod y Stadiwm amlbwrpas yma wedi derbyn cydnabyddiaeth cefnogwyr ac arweinwyr y diwydiant yng ngwobrau Busnes cerddoriaeth fyw.’’