Mae’r ffordd mae’r BBC yn adrodd straeon am ddatganoli wedi gwella.

Dyna farn ysgolhaig wnaeth feirniadu’r BBC yn 2008 am fethu ymateb i’r newid ers datganoli grym gwleidyddol  i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Neithiwr ym Mae Caerdydd roedd yr Athro Anthony King yn cyfeiro at waith ymchwil oedd yn dangos bod y BBC wedi cynyddu nifer y straeon datganoli rhwng 2007 a 2009.

“Mae’r BBC yn anochel yn Gorfforaeth â’i gwreiddiau yn Llundain,” meddai’r Athro King.

“Os ydyn nhw wedi teimlo ar adegau bod yn rhaid iddyn nhw adrodd ar stori sydd yn hannu o Gymru neu yr Alban neu Gogledd Lloegr neu beth bynnag jest oherwydd ei fod e yn dod o rhan yna y byd, fe fydd hynny yn cadw nhw ar flaenau eu traed i’r ffaith bod yna lefydd yn bodoli tu allan i’r M25.”