Carwyn Jones yn agor Ysgol yr Hendre
Mae to ysgol newydd sbon gwerth £9.3 miliwn yng Nghaernarfon wedi gollwng dŵr yn dilyn y glaw trwm diweddar.

Agorodd Ysgol yr Hendre eleni ar gyfer 450 o ddisgyblion ac mae wedi cael gwobr am fod yn adeilad ‘gwyrdd-gyfeillgar’ sy’n ailgylchu glaw.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu er mwyn cadw’n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf, er mwyn gostwng costau gwresogi a chreu 60% yn llai o allyriadau carbon.

Daeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones i agor yr ysgol fis Mai wedi i’w lywodraeth roi grant o £4.3 miliwn at y prosiect a gafodd ei adeiladu gan Wynne Construction.

“Rydym eisoes yn ymwybodol fod rhan fechan o do’r adeilad wedi gollwng dŵr,” meddai llefarydd Cyngor Gwynedd.

“Mae’r cwmni adeiladodd yr ysgol, sydd yn parhau yn gyfrifol am ddatrys problemau cychwynol fel hyn, eisoes yn delio â’r mater.”