Graffiti Cymdeithas yr Iaith
Mae Dafydd Iwan wedi dweud ei bod hi’n bwysig i’r Cymry sefyll gyda’i gilydd yn hytrach na “dilyn tywysogion gwahanol a throi yn erbyn ein gilydd,” fel sydd wedi digwydd trwy hanes Cymru.

Hefyd mae’r diddanwr-brotestiwr a chyn-gynghorydd sir yn dweud bod angen brwydro’n barhaol i gadw “pobl gynhenid” yng nghefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd mae’r Gymdeithas yn bygwth gweithredu’n uniongyrchol – torri fewn i swyddfeydd, paentio graffiti a ballu – yn erbyn gwleidyddion Plaid Cymru. Maen nhw’n flin bod Aelodau Cynulliad y Blaid wedi fotio’n erbyn darparu Cofnod dwyeitihog o drafodaethau’r Senedd yn y Bae.

Ond wrth son am ei brofiadau ymgyrchu a’i gefnogaeth i’r Gymdeithas a’r Blaid ar raglen Tri Lle S4C, mae Dafydd Iwan yn mynnu bod angen i’r Cymry osgoi ffraeo ymysg ei gilydd.

“Mae’n rhaid inni gladdu ein teimladau personol weithiau er lles y genedl. Rhaid inni byth anghofio fod y genedl yn rhan o deulu ehangach. Dwi’n gobeithio bod fy nghaneuon i wedi cadw’r ffocws ar ein brwydr genedlaethol tra hefyd yn ei chadw mewn cyd-destun mor eang â phosib.”

Ar y rhaglen, sydd i’w darlledu ar Hydref 25, mae’r canwr hefyd yn son am bentref Garnfadryn ym Mhen Llŷn, lle y bud iddo gyfarfod ei wraig, Bethan, ar ôl iddo ddod yno i bregethu.

“Mi roedd rhesiad o Gymry ifanc yn arfer dod i’r capel ond mae nifer wedi gorfod symud o ’ma er mwyn chwilio am waith.  Dyna’r her sy’n wynebu pentref bach fel hwn. Mae’n rhaid ceisio cadw’r bobl gynhenid yma yn ein pentrefi. Mae’n sialens sy’n bodoli ar hyd a lled Cymru.”