Mae dros 60 o siopau blaenllaw ar-lein wedi cael eu hannog i newid eu gwefannau ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad ydyn nhw’n cydymffurfio â deddfau sy’n diogelu’r cwsmer.

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg wedi ysgrifennu at 62 o siopau cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i arolwg o 156 o wefannau ddangos fod rhwystrau i’r cwsmer megis cyfyngiadau annheg er mwyn cael arian yn ôl, manylion cyswllt annigonol, a thaliadau ychwanegol ar ôl cyrraedd y dudalen dalu.

Dywedodd llefarydd y Swyddfa Masnachu Teg eu bod nhw heb gyhoeddi enwau’r siopau eto tra eu bod nhw’n disgwyl am ymateb ganddyn nhw.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr y Swyddfa Masnachu Teg mae’r mwyafrif o fusnesau eisiau “chwarae’n deg” a chydymffurfio gyda’r gyfraith.

“Rydym ni’n annog pob siop ar-lein i gael golwg ar eu gwefannau fel bod cwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus fod eu hawliau yn cael eu parchu,” meddai Cavendish Elithorn