Mae’r archfarchnad Tesco wedi cyhoeddi bod ei elw ar gyfer y chwe mis cyn Awst wedi gostwng o 12%.

Hwn yw’r tro cyntaf i elw’r cwmni ostwng ers bron i 20 mlynedd.

Ond roedd ambell arwydd addawol i’r cwmni, wrth i werthiant nwyddau a phetrol gynyddu ychydig yn ystod y chwarter olaf.

Roedd yna ostyngiad o 1.5% yn y chwarter cyntaf.

Roedd yr elw ar ei waethaf yn Ewrop ac Asia yn yr ail chwarter, wrth i’r cwmni fynd i ddyled ddifrifol.

Yn y cyfamser, mae cwmni Sainsbury’s wedi cyhoeddi cynnydd o 1.7% ar ei werthiant, ac eithrio tanwydd, ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn hyd at Fedi 29.

‘Llawer mwy i’w wneud eto’

Dywedodd Prif Weithredwr Tesco, Philip Clarke: “Ym mis Ebrill, fe wnes i amlinellu’n cynlluniau i ‘Adeiladu Gwell Tesco’ yn y DU. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed ac rwy’n ffyddiog ynghylch ymateb cychwynnol ein cwsmeriaid i’r newidiadau rydym wedi eu gwneud – ond mae llawer mwy i’w wneud eto.”

Mae Tesco wedi dweud bod gwerthiant y cwmni i fyny 1.4% i £36 biliwn yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, tra bod y gwerthiant yn y DU yn £23.9 miliwn, sydd 2.2.% yn uwch.

Roedd yna ostyngiad o 12% yn elw’r cwmni i £1.1 biliwn, a’r lefel wedi gostwng 17% yn rhyngwladol i £378 miliwn yn yr un cyfnod.

Mae’r cwmni wedi cymryd rhai camau i wella’i sefyllfa ariannol, gan gynnwys cyflogi 8,000 o staff, adnewyddu 230 o’i siopau a lansio’r cynllun Everyday Value.