Mae un o’r ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn anfodlon gyda’r broses etholiadol.

Dywedodd Tal Michael fod diffyg gwybodaeth am yr ymgeiswyr yn debygol o droi pleidleiswyr oddi wrth yr etholiad, a bod gwir bosibilrwydd y gallai canran y pleidleiswyr ostwng i’r leiaf erioed – 18.5%.

Mae’r Gymdeithas er Diwygio Etholiadol wedi anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May i gwyno am drefn yr etholiadau.

Dywedodd Tal Michael: “Mae yna ddigon o gyfleoedd wedi bod i sortio hyn, ond dydy hynny ddim wedi cael ei wneud.

“Y gost yw’r esgus – mae’n rhy gostus, mae’n debyg. Ond doedd dim cost er mwyn cael hysbyseb yn y llyfryn, wnaeth ddim digwydd. Roedd yn llai costus na’r taflenni newydd sy’n cael eu printio.

“Dydw i ddim yn fodlon derbyn yr esgus am y gost – mae hynny’n anghywir. Mewn gwirionedd, does dim rheswm go iawn.

“Mae pawb yn awyddus i gysylltu gyda’r etholwyr a gwneud job dda ohoni.”

‘Ennyn diddordeb’

Fe fydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar 15 Tachwedd, ond mae’r ymgeiswyr wedi rhybuddio nad ydyn nhw wedi cael digon o amser i ennyn diddordeb y cyhoedd.

Yn ôl Tal Michael, mae’r ymgeisydd Ceidwadol Derek Barker eisoes wedi tynnu allan o’r ras.

Ychwanegodd: “Mae’n anodd iawn cael pobl i bleidleisio. Mae’r Daily Post, o leiaf, yn gwneud rhywbeth i ni, ond mae 30% o’r etholwyr yn methu cysylltu â’r we, lle mae’r wybodaeth.

“Rydyn ni wedi anfon tua 75,000 o daflenni allan ein hunain, sy’n cyfateb i tua 9% a dwi’n obeithiol y bydd hynny’n ddigon i ennill yr etholiad.”

Llythyr

Ymhlith yr ymgeiswyr Llafur eraill mae Alun Michael a Christine Gwyther.

Maen nhw wedi gofyn am gefnogaeth amlbleidiol i’r llythyr.

Mae nifer o swyddogion heddlu blaenllaw wedi llofnodi’r llythyr, gan gynnwys Cyn Ddirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, Brian Paddick.

Mae’r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi dweud y byddan nhw’n anfon llythyron i bob cartref er mwyn esbonio’r broses etholiadol ac i roi gwybodaeth am yr ymgeiswyr.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas yng Nghymru, Stephen Brooks: “Dylai Llywodraeth y DU gynnwys cyfryngau darlledu lleol a rhanbarthol fel rhan o’i phecyn i godi ymwybyddiaeth ac yn olaf, mae’r llythyr yn gofyn am addewid yr Ysgrifennydd Cartref i beidio â chynnal etholiad mawr yn ystod y gaeaf byth eto – gan helpu i gynyddu nifer y pleidleiswyr a lleihau costau ar yr un pryd.”