Mae barnwr sydd o blaid darlledu achosion llys yn cael ei dderbyn i swydd Llywydd y Goruchaf Lys yn Llundain heddiw.

Hon yw’r swydd uchaf yn system y llysoedd.

Mae’r Arglwydd
, sy’n 64 oed, yn gyn-fanciwr masnachol.

Cafodd ei benodi i’r swydd ym mis Gorffennaf, ac mae yna adroddiadau y bydd yn ennill £214,165 y flwyddyn.

Mae’n olynu’r Arglwydd Phillips.

Bu’r Arglwydd Neuberger yn bennaeth cyfiawnder sifil ers tair blynedd.

Dadleuodd 18 mis yn ôl y gallai darlledu achosion llys gynyddu hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder, a bod angen i’r cyhoedd ddeall y system honno.

Agorodd y Goruchaf Lys yn 2009, gan weithredu fel y cam olaf yn y broses apeliadau barnwrol.