Flwyddyn union ers cyflwyno tâl o 5 ceiniog am fagiau siopa yng Nghymru, mae’r Gweinidog Amgylchedd wedi annog gwledydd eraill y Deyrnas Unedig i gyflwyno polisi tebyg.

Dywedodd John Griffiths fod y tâl wedi gwneud “gwahaniaeth go iawn i arferion siopa” ac na all weld rheswm pam na fyddai’r tâl yn gweithio cystal mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl y Llywodraeth mae 96% yn llai o fagiau’n cael eu defnyddio mewn rhai sectorau manwerthu yng Nghymru ers cyflwyno’r tâl ar Hydref 1 2011, a bod oddeutu 70% o bobl yng Nghymru bellach yn cefnogi’r tâl.

‘Elusennau yn elwa’

Maen nhw hefyd yn dweud fod elusennau wedi elwa wrth i’r 5c gael ei drosglwyddo i achosion amgylcheddol neu achosion da, a bod yr RSPB a Cadwch Gymru’n Daclus wedi derbyn cyfraniadau o fwy nag £800,000 rhyngddynt o ganlyniad i’r tâl.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ymgynghori ar gyflwyno tâl yno ac mae bwriad i gyflwyno tâl yng Ngogledd Iwerddon yn 2013.

Ond mae corff sy’n cynrychioli manwerthwyr ym Mhrydain, y BRC, wedi dweud fod bagiau yn cynrychioli llai na 1% o wastraff ym Mhrydain a bod materion pwysicach i fynd i’r afael â nhw ym maes gwastraff na chodi tâl ar fagiau plastig.