Mae hunan-fomiwr oedd yn gyrru beic modur yn llawn ffrwydron wedi lladd 14 o bobl yn Afghanistan heddiw, gan gynnwys tri o filwyr Nato a’u cyfieithydd, yn ôl swyddogion.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad, a ddaeth ddiwrnod yn unig ar ôl i nifer y milwyr o’r UDA sydd wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001 gyrraedd 2,000.
Roedd yr hunan-fomiwr wedi targedu grŵp o blismyn Afghanistan a milwyr rhyngwladol wrth iddyn nhw adael eu cerbydau a cherdded drwy ddinas Khost.
Mae’n debyg bod o leiaf 30 hefyd wedi eu hanafu.