Megan Stammers
Bydd y ferch ysgol 15 oed o Eastbourne, Megan Stammers yn hedfan adref heddiw ar ôl iddi ffoi i Ffrainc efo’i hathro mathemateg,

Mae ei mam, Danielle Wilson, ar ei ffordd i Bordeaux er mwyn hebrwng ei merch yn ôl i Ddwryain Sussex.

Mae’r athro, Jeremy Forrest wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gipio plentyn ac yn parhau i gael ei holi gan yr heddlu yn Ffrainc.

Yn ôl pob tebyg bydd yn cael dychwelyd i Brydain i gael ei holi gan yr heddlu yma ymhen ychydig ddyddiau.

Roedd y ddau wedi ffoi ar long i Ffrainc Ddydd Sul ac roedd yr heddlu wedi cyhoeddi warant rhyngwladol er mwyn arestio’r athro 30 oed.

Dywedodd yr heddlu fod y ddau wedi cael eu canfod diolch i adroddiadau am y ddau ar y cyfryngau yn Ffrainc a bod Megan bellach yng ngofal awdurdodau Prydain yn Ffrainc.

Mae teuluoedd Megan Stammers a Jeremy Forrest wedi croesawu’r newyddion. Dywedodd teulu Jeremy Forrest bod hyn oll ‘wedi bod yn gryn boen meddwl i’r teuluoedd oll.’ Roedd rhieni’r ddau wedi apelio arnyn nhw yn ystod yr wythnos i ddod i gysylltiad â nhw.