Mae tri dyn a phump o ferched o Rwmania yn cychwyn cyfnod yn y carchar y bore yma am ddwyn gwerth dros £170,000 o arian a nwyddau o siopau bach yn Ne Cymru a Lloegr.

Cafodd yr wyth eu carcharu am gyfanswm o 24 mlynedd gan farnwr yn Llys y Goron Merthyr ddoe, ddywedodd wrth eu dedfrydu eu bod i gyd “wedi bod yn rhan o gynllwyn soffistigedig a bwriadol.”

Roedd y criw yn gyfrifol am ddwyn o 14 o siopau yng Nghaerdydd, y cymoedd, Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd. Byddai un yn tynnu sylw’r siopwr tra roedd y llall yn dwyn.

Fe lwyddon nhw i ddwyn gwerth tua £128,000 o emau a £41,000 mewn arian parod ynghyd â chyfrifiaduron, ffonau symudol ac offer sat nav.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru greu tîm arbennig o swyddogion i ddal y lladron ac ar ôl astudio oriau o luniau teledu cylch cyfyng, fe wanethon nhw arestio’r wyth yng ngorllewin canolbarth Lloegr.

Enwau’r rhai garcharwyd yw: Loreena Belcu ( 4 mlynedd), Catalina Chiciu, (3 blynedd a 6 mis), Elena Iordache (3 blynedd

a 4 mis), Cerasela Mihalache (3 blynedd 4 mis), Constantin Lazarica (3 blynedd), Ciprian Stavarache (2 flynedd 4 mis) a Leoredana Bacaeanu ( 2 flynedd).