Mae Dale Cregan, sydd wedi ei gyhuddo o ladd pedwar o bobl, gan gynnwys dwy blismones, wedi ymddangos trwy fideo yn Llys y Goron Manceinion.

Mae’r dyn 29 oed wedi ei gadw yn y ddalfa yn Strangeways yn y ddinas, wedi ei gyhuddo o lofruddio’r plismonesau Fiona Bone a Nicola Hughes, a’r tad a’r mab, David a Mark Short.

Cafodd y ddwy blismones eu lladd wedi iddo alw’r heddlu i dŷ ar gyrion y ddinas ddydd Mawrth diwethaf.

Roedd llai o ddiogelwch o amgylch y llys y bore yma gan ei fod yn ymddangos trwy fideo.

Mae’r Barnwr Andrew Gilbart wedi pwysleisio’r angen am achos teg pan fydd yr achos yn dechrau yn Llys y Goron Lerpwl.

Nid oes gan y cyfryngau’r hawl i gyhoeddi manylion unrhyw droseddau eraill y mae diffynnydd wedi ei gyhuddo o’u cyflawni sy’n debygol o amharu ar yr achos dan sylw.

Ychwanegodd fod y rheolau hynny’n berthnasol i wefannau, gan gynnwys gwefan Heddlu Manceinion lle cafodd gwybodaeth am y ddwy blismones ei chyhoeddi yn dilyn eu marwolaethau.

Mae Anthony Wilkinson, sy’n 33 oed, a Jermaine Ward, sy’n 24 oed, hefyd wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â llofruddiaethau David Short, a byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion ar Dachwedd 9.

Bydd Damian Gorman, 37, Luke Livesey, 27, Ryan Hadfield, 28, a Matthew James, 33, sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio Mark Short yn ymddangos gerbron yr un llys ar Dachwedd 2.

Cafodd Cregan ei gadw yn y ddalfa y bore yma tan Dachwedd 5, pan fydd yn ymddangos trwy fideo yn Llys y Goron Lerpwl.